Cwestiynau Amgueddfa

Cwestiynau Hud

Cwestiynau? Holwch â chroeso!


Beth yw’r Amgueddfa Hud a Llên Gwerin?

Prosiect gan Three Eyed Circus yw’r Amgueddfa, a sefydlwyd i ddarparu both gymunedol ar gyfer rhannu diwylliant cyfoethog hud mewn hanes, llên ac ymarfer gwerin yng Nghymru a’r byd.

Ein nod yw ysbrydoli, addysgu a goleuo, cofnodi hanesion go iawn, mynd i’r afael â gwybodaeth anghywir, a hyrwyddo gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o lên ac arferion hud.


Nid Cymro/Cymraes ydw i / Dw i ddim yn byw yng Nghymru, ydw i’n cael cyfrannu?

Ydych! Rym ni yng Nghymru ond rym ni’n dal yn rhan o’r byd. Weithiau byddwn ni’n canolbwyntio ar bynciau sy’n benodol Gymreig ond mae hyd a llên gwerin ill dau yn byw mewn gofodau trothwyol ac yn croesi ffiniau felly mae croeso mawr ichi ymuno ble bynnag yn y byd y boch.


Amgueddfa Rithwir? 

- Bendant! Bydd hon yn cynnwys gwybodaeth, lluniau, fideos, sgyrsiau fideo a phosteri, llyfrynnau ac eitemau eraill i’w hislwytho a’u hargraffu gartref.

Yma yn yr Amgueddfa Hud a Llên Gwerin, rydym am rannu hud a llên gwerin Cymru gyda’r byd, a hyrwyddo hygyrchedd i bobl na allan nhw ymweld ag amgueddfa ddiriaethol.

Felly rydym yn cynnal “Arddangosfeydd Rhithwir” i gyflwyno ein harddangosiadau ar ein gwefan, nosweithiau agoriadol a sgyrsiau ar-lein, bonysau i’w hargraffu, ac yn casglu hanesion o’r gymuned fel y gallwch chi fod yn rhan o hanes!

Pam lai bwrw golwg ar y cynlluniau ar gyfer ein harddangosfa gyntaf fydd yn dechrau’n fuan... (coming soon)


Sut fyddwch chi’n ariannu hyn? 

- Rydym yn awyddus iawn i dalu ein cyfranwyr, cyfieithwyr a chydweithwyr yn deg lle bynnag y gallwn, ac mae’r wefan, storio offer, cynilo ar gyfer lleoliad diriaethol, teithio i ddigwyddiadau dros dro ac ati i gyd yn costio arian. 

Felly bydd rhai agweddau ar yr arddangosfeydd am ddim a bydd ffi fach ar gyfer eraill. Gallwch hefyd ddod yn Noddwr i’r Amgueddfa a chael newyddion misol yn ogystal â deunydd ychwanegol ar gyfer pob arddangosfa.


Pwy sydd y tu ôl i'r amgueddfa?

Tu ôl i’r Llenni: Ffrwyth llafur cariad yw’r Amgueddfa Hud a Llên Gwerin (AHLG) yng Nghymru yn cael ei redeg gan Three Eyed Circus Cyf. Ein prif guradur yw Dr Halo Quin, athronydd, cyfarwydd a chreadur hud a fu’n astudio yn Llambed, a gwympodd mewn cariad â’r wlad a’i chwedlau, ac sy bellach byw yng Ngorllewin Cymru ers 20 mlynedd. Mae Halo’n angerddol ynglŷn â llên gwerin, hud, a meithrin cymuned trwy rannu straeon.


Onid Gwaith y Diafol yw hud? 

- Yn syml iawn, nage. 

Yr ateb llawnach yw bod ffigur “y Diafol” i’w weld mewn ychydig o chwedlau gwerin, ac yn fod sy’n rhan o rai arferion modern: nid fel ‘gŵr drwg’ ond fel twyllwr neu esblygiad o fodau dwyfol hŷn. Yn y cyfnod hanesyddol diweddar, roedd nifer o ymarferwyr yn Gristnogion oedd yn galw ar Iesu, Mair, y Seintiau a gras Duw, a heddiw mae’r rhan fwyaf o baganiaid yn osgoi unrhyw ffigurau Cristnogol, gan gynnwys y Diafol. Yng Nghymru yn arbennig, dywedid bod hud yn dod oddi wrth y Tylwyth Teg a doedd dim cysylltiad o gwbl â’r Diafol.

A bydd, bydd arddangosfeydd am ffigur y “Diafol” a’r Tylwyth Teg yn y dyfodol: tanysgrifiwch i wybod pryd.


Cwestiynau? Cyflwynwch nhw isod.

← Back

Thank you for your response. ✨