Ffrwyth llafur cariad yw’r Amgueddfa Hud a Llên Gwerin ac mae angen eich help chi arnom ni i’w wireddu yng Nghymru.

Ein nod yw creu lleoliad ffisegol yn Aberystwyth lle gall selogion myth, hyd a llên gwerin yng Nghymru ddod at ei gilydd, yn ogystal â’r ‘Amgueddfa Rithwir’ yma, i grynhoi adnoddau addysgol a pharhau i rannu hanes hud cyfoethog Cymru â’r byd.

Gallwch ymuno â ni heddiw a bod yn rhan o greu hanes yr Amgueddfa Hud a Llên Gwerin gyntaf yng Ngorllewin Cymru!

YN DOD CYN BO HIR! Ffyrdd o Gefnogi’r Amgueddfa

Ymweld â’r Siop Roddion i ddod o hyd i arweinlyfrau, celf ac eitemau eraill yn ymwneud â’r Amgueddfa(cynigir gan Three Eyed Circus).).

Noddi arddangosfa - “tâl mynediad” untro i gefnogi creu a churadu deunyddiau i’r Amgueddfa. Cewch wahoddiad i’r “noson agoriadol” (ar-lein) neu recordiad ohoni, fersiynau o arweinlyfr arddangosfa o’ch dewis (pan gaiff ei gyhoeddi) a darnau dethol i’w hargraffu a’u dangos yn eich cartref!

Beth am ddod yn un o Noddwyr yr Amgueddfa? Tanysgrifiwch gyda chyfraniad misol a byddwch yn derbyn cylchlythyr yr Amgueddfa gyda diweddariadau o’r tu ôl i’r llenni yn ogystal â phecyn “noddi arddangosfa” ar gyfer pob arddangosfa am gyhyd ag y byddwch yn Noddwr. (Gall fod ffi ychwanegol ar gyfer digwyddiadau arbennig, gweithdai yn y cnawd, a chydweithrediadau: fel Noddwr, byddwch yn derbyn gostyngiadau ac yn cael gwybod am y rhain ymlaen llaw!)

Dewch yn un o Noddwyr yr Amgueddfa - Ydych chi’n darparu gwasanaethau hud-gyfeillgar? Hoffech chi ein noddi ni fel busnes a hysbysebu ar ein gwefan? Dewch i gysylltiad â ni a chawn ni drafod!

Beth am drefnu i’r Amgueddfa ddod i’ch digwyddiad – ym Mhrydain neu ar-lein? Gallwn ddarparu anerchiadau a gweithdai ar lawer o bynciau’n ymwneud â gwaith yr Amgueddfa a gallwch drefnu inni siarad, cynnig gweithdy neu ddosbarth, neu gynnal arddangosfa dros dro (yn dod cyn bo hir)! E-bostiwch ni gyda’ch anghenion a dewch inni siarad!

Dewch yn rhan o’r prosiect a rhoi’r gair ar led – Ymunwch â’n rhestr e-bostio i gael diweddariadau a gwahoddiadau i gyfrannu i arddangosfeydd, a chofiwch sôn amdanom ni wrth ein ffrindiau!